WELSH
Arglwydd, arwain trwy’r
anialwch,
Fi bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog, hollalluog,
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.
Colofn dân rho’r nos i’m
harwain,
A rho’r golofn niwl y dydd;
Dal fi pan fwy’n teithio’r mannau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Rho imi fanna, rho imi fanna,
Fel na bwyf yn llwfrhau.
Fel na bwyf yn llwfrhau.
Agor y ffynhonnau melus
Sydd yn tarddu o’r Graig i maes;
Colofn dan rho’r nos i’m harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
'R hyd yr anial mawr canlyned
Afon iechydwriaeth gras:
Rho imi hynny, rho imi hynny,
Dim imi ond dy fwynhau.
Dim imi ond dy fwynhau.
Pan fwy’n myned trwy’r
Iorddonen—
Angeu creulon yn ei rym,
Ti gest hwnnw gynt dy hunan,
Pam yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth, buddugoliaeth,
Gwna imi waeddi yn y llif!
Gwna imi waeddi yn y llif!
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed:
Ti gest angau, ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pen Calfaria, Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o’m cof.
Nac aed hwnw byth o’m cof. |
TRANSLATION
Lord,
guide me through the wilderness,
A pilgrim weak of aspect,
There is neither strength nor life in me,
As though lying in the grave,
Almighty,
It is Thou who shalt take me to that shore.
Give Thou
a pillar of fire to lead me in the night,
And a pillar of mist in the day,
Hold me when I travel places
Which are rough on the way,
Give me manna,
Thus shall I not despair.
Open the
sweet springs
Which gush forth from the rock,
All across the great wilderness
May a river of healing grace follow:
Give this to me
Not for me but for Thy sake.
When I go through Jordan -
Cruel death in its force -
Thou Thyself suffered this before,
Why shall I fear further?
Victory!
Let me cry out in the torrent.
I shall
trust in Thy power,
Great is the work that Thou hast always done,
Thou conquered death, Thou conquered hell,
Thou hast crushed Satan beneath Thy feet,
Hill of Calvary,
This shall never escape from my memory. |